BA

Cysylltiadau Rhyngwladol a'r Cyfryngau

BA Cysylltiadau Rhyngwladol a'r Cyfryngau Cod 3P2L Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Mae Cysylltiadau Rhyngwladol a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Aberystwyth yn bwnc hollol ddeinamig. Mae’n adlewyrchu bywiogrwydd, egni a datblygiadau byd-eang sy’n newid yn gyflym. Wrth ddewis astudio am y radd hon ym Mhrifysgol Aberystwyth, byddwch yn ymuno â dwy adran ragorol sydd ag enw da yn rhyngwladol - ein hadran Gwleidyddiaeth Ryngwladol a'n hadran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu.

Mae’r adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn gartref i Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru. Mae’r cyfuniad o ddysgu rhagorol ac ymchwil gyffrous yn creu profiad unigryw ac eithriadol, a hynny mewn awyrgylch gyfeillgar. Cewch gyfleoedd i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn cynyddu eich cyfleoedd gyrfa, ac rydym yn cynnig cynllun lleoliadau yn Nhŷ’r Cyffredin ac yn Senedd Cymru, yn ogystal â rhaglenni cyfnewid gyda gwledydd Ewropeaidd, Canada ac Awstralia i’n myfyrwyr. Rydym yn rhoi cyfle i’n myfyrwyr efelychu argyfyngau gwleidyddol ar gyrsiau maes cyffrous, ac mae hyn oll wedi ei leoli mewn amgylchedd bywiog a chosmopolitaidd yng nghalon campws y Brifysgol.

Bydd pynciau'r Cyfryngau yn cael eu dysgu yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu. Byddwch yn trafod pwy sy’n rheoli ac yn berchen ar ein cyfryngau, sut y caiff y cynnwys ei gynhyrchu, a pha fath o effaith y mae’r cyfryngau’n eu cael arnom ni, y gynulleidfa.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam dewis BA Cysylltiadau Rhyngwladol a'r Cyfryngau ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Mae'r radd Gwleidyddiaeth Ryngwladol a’r Cyfryngau yn cyfuno dau faes cyffrous iawn a byddwch yn cael eich dysgu mewn dwy adran ddeinamig gan staff sy'n weithgar ym maes ymchwil ar lefel ryngwladol.
  • Yn y modiwlau gwleidyddiaeth rhyngwladol byddwch yn trafod y syniadau sy’n sail i’n bywydau o ddydd i ddydd, megis cyfiawnder, rhyddid, grym, cymuned, cydraddoldeb a dinasyddiaeth, a gwneir hynny wrth astudio ystod eang o wledydd a sefyllfaoedd. Byddwch hefyd yn edrych yn fanwl ar waith a phatrymau llywodraeth, ac yn bwysicach fyth, ar ganlyniadau’r gwaith a’r patrymau rheiny. Byddwch yn dysgu am wleidyddion a llywodraethau, ond hefyd am y grwpiau a mudiadau eraill sy’n dylanwadu ar fywyd gwleidyddol. Mae’r radd hon
  • Yn y themâu sy'n ymwneud â'r Cyfryngau bydd cydbwysedd rhwng profiad beirniadol a chreadigol. Byddwch yn astudio egwyddorion a sgiliau pob cam o'r broses gynhyrchu, o'r sgriptio i'r golygu, y dulliau cyfoes o greu ffilmau a fideo, ynghyd â gwaith aml-gyfryngol byw, amodau gwaith a heriau cyfoes i’r diwydiannau creadigol yng Nghymru a thu hwnt, a datblygiadau allweddol yn hanes, theori a dadansoddiad ffilm a theledu.
  • Sefydlwyd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn 1919 ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, a dyma’r adran brifysgol gyntaf o’i bath, ac mae’n parhau i fod yn un o’r adrannau gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol mwyaf yn Ewrop, a chanddi dros 40 o staff academaidd.
  • Mae’r Adran yn rhedeg Cynllun Lleoliadau Tŷ’r Cyffredin a Senedd Cymru. Mae’r lleoliadau yma’n darparu profiad gwaith gwerthfawr dros ben fydd yn ychwanegu llawer at CV myfyrwyr yn ogystal â chynnig profiad go iawn o wleidyddiaeth wrth iddo ddigwydd. Caiff myfyrwyr eu gosod gydag Aelod Seneddol yn Nhŷ’r Cyffredin, San Steffan neu gydag Aelod Senedd Cymru (Senedd Cymru, Caerdydd) am gyfnod o 4-6 wythnos yn ystod yr haf, sydd yn brofiad gwych i unrhyw fyfyriwr Gwleidyddiaeth.
  • Mae'r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu wedi'i lleoli mewn adeilad modern sydd â chyfleusterau ac adnoddau rhagorol ar gyfer gwaith ymarferol: tair stiwdio ymarfer, pob un ag adnoddau technegol hyblyg; dwy stiwdio fawr ag offer o safon broffesiynol a rigiau goleuadau digidol a reolir drwy ETC Congo a phaneli rheoli Strand Lighting, offer PA Yamaha a Soundcraft, systemau clyweledol Sanyo a goleuadau Strand, a dau NXAMP; yn ogystal â chyfleusterau gwisgoedd a wardrob.
  • Mae ganddi gysylltiadau â phartneriaid allweddol yn y diwydiant fel BBC, S4C, BAFTA Cymru, Gŵyl Ffilm Tribeca (Efrog Newydd), Fiction Factory, Tinopolis, Gŵyl Ffilm Rhyngwladol Caeredin, Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Avid. Mae'r partneriaid hyn yn rhoi cyfle gwych i chi rwydweithio a chysylltu â'r diwydiant cyn graddio.
Ein Staff

Mae pob un o ddarlithwyr yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn ymchwilwyr gweithgar ac mae ganddynt gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y rhan fwyaf hefyd TUAAU.

Mae holl staff academaidd yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu yn gwneud gwaith ymchwil a/neu'n ymwneud â phrosiectau Trosglwyddo Gwybodaeth, ac mae ganddynt naill ai gymwysterau academaidd perthnasol ar lefel doethuriaeth neu brofiad proffesiynol ac arbenigedd cyfatebol.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
International Relations: Perspectives and Debates IP20120 20
Ymarfer Cynhyrchu 1: Cyfryngau TC21120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
A War on the Mind: Propaganda and Secret Intelligence from the Great War to the 21st Century IP28320 20
Britain and Ireland in War and Peace since 1800 IP28820 20
Britain and World Politics from Global Empire to Brexit: The Diplomacy of Decline IQ22620 20
Capitalism and International Politics IQ22820 20
Cenedlaetholdeb mewn Theori a Realiti GW29920 20
China From the Opium War to the Present IP29820 20
Climate Change Politics IP21420 20
Climate Change and International Politics in the Anthropocene IP20720 20
Contemporary Latin America IP28720 20
Cyfiawnder Byd-Eang: Dehongli a Gwireddu ein Dyletswyddau i'r Dieithryn Pell GW25820 20
Datganoli a Chymru GW25020 20
Devolution and Wales IP25020 20
Economic Diplomacy and Leadership IQ24320 20
European Security in 21st Century IP23620 20
Gender, Conflict and Security IP26720 20
Global Politics and the Refugee Regime IQ25520 20
Gwleidyddiaeth mewn Cymdeithasau Amrywiaethol GQ23720 20
Gwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig Heddiw: Undeb Dan Straen? GQ23820 20
International Politics and Global Development IP29220 20
International Politics and the Nuclear Age IP20420 20
Intervention and Humanitarianism IQ20220 20
Knowing about Violent Conflict in International Politics IQ24420 20
Middle Powers in the Global Political Economy IQ27120 20
Militaries and Crisis: Where Strategy Meets Society IP20820 20
Nationalism in Theory and Practice IP29920 20
People and Power: Understanding Comparative Politics Today IQ23920 20
Pobl a Grym: Deall Gwleidyddiaeth Gymharol Heddiw GQ23920 20
Political Theory IP22220 20
Politics in Diverse Societies IQ23720 20
Questions of International Politics IP26820 20
Race in Global Politics IQ20020 20
Refugee Simulation IQ25620 20
Russian Security in the 21st Century IP21820 20
Russian intelligence from Lenin to Putin IQ24920 20
Science, Technology, and International Relations IP23020 20
Strategy, Intelligence and Security in International Politics IQ25120 20
Terrorism & Counter Terrorism in the Modern World: Policing, Intelligence & War IP24520 20
The Arab-Israeli Wars IP21320 20
The BRICS in World Politics IQ20320 20
The British Army's Image in Battle, from the Crimean to the Present IQ20920 20
The European Union: Politics, Policies, Problems IP23820 20
The Governance of Climate Change: Simulation Module IP22320 20
The Long Shadow of the Second World War IP22720 20
The Past and Present US Intelligence IP26020 20
The Politics and Paradoxes of International Organisations IQ26020 20
The Second World War in Europe IP26420 20
Total War, Total Peace IQ23420 20
Trade Wars and the Liberal Order IQ21620 20
UK Politics Today: A Union Under Strain? IQ23820 20
War Crimes IQ25720 20
Warfare after Waterloo: Military History 1815-1918 IP25320 20
Women and Global Development IP29620 20
Y Meddwl Cymreig mewn Syniadaeth Ryngwladol GQ20920 20
'Arwyr': Dogfennu Gyrfaoedd yn y Diwydiannau Creadigol TC27020 20
Ffilm a Theatr Americanaidd TC29920 20
Sylfeini Hunan-Gyflwyno TC20320 20
Theatr a Ffilm Gyfoes: Cymru a'r Byd TC20620 20
Ymarfer Cynhyrchu: Gorffen TC21220 20
Ymchwil Creadigol Ymarferol TC21420 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
A War on the Mind: Propaganda and Secret Intelligence from the Great War to the 21st Century IP38320 20
Britain and Ireland in War and Peace since 1800 IP38820 20
Britain and World Politics from Global Empire to Brexit: the Diplomacy of Decline: IQ32620 20
Capitalism and International Politics IQ32820 20
Cenedlaetholdeb Mewn Theori a Realiti GW39920 20
Climate Change and International Politics in the Anthropocene IP30720 20
Contemporary Latin America IP38720 20
Cyfiawnder Byd-Eang: Dehongli a Gwireddu ein Dyletswyddau i'r Dieithryn Pell GW35820 20
Datganoli a Chymru GW35020 20
Devolution and Wales IP35020 20
Dulliau Ymchwil + Traethawd Estynedig GW30040 40
Dulliau Ymchwil + Traethawd Estynedig GW30040 40
Economic Diplomacy and Leadership IQ34320 20
European Security in the 21st Century IP33620 20
Gender, Conflict and Security IP36720 20
Global Politics and the Refugee Regime IQ35520 20
Gwleidyddiaeth mewn Cymdeithasau Amrywiaethol GQ33720 20
Gwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig Heddiw: Undeb Dan Straen? GQ33820 20
International Politics and the Nuclear Age IP30420 20
Intervention and Humanitarianism IQ30220 20
Knowing about Violent Conflict in International Politics IQ34420 20
Middle Powers in the Global Political Economy IQ37120 20
Militaries and Crisis: Where Strategy Meets Society IP30820 20
Nationalism in Theory and Practice IP39920 20
Political Theory IP32220 20
Politics in Diverse Societies IQ33720 20
Race in Global Politics IQ30020 20
Refugee Simulation IQ35620 20
Russian Security in the 21st Century IP31820 20
Russian intelligence from Lenin to Putin IQ34920 20
Science, Technology, and International Relations IP33020 20
Terrorism & Counter Terrorism in the Modern World: Policing, Intelligence & War IP34520 20
The Arab Israeli Wars IP31320 20
The BRICS in World Politics IQ30320 20
The British Army's Image in Battle, from the Crimean to the Present IQ30920 20
The European Union: Politics, Policies, Problems IP33820 20
The Long Shadow of the Second World War IP32720 20
The Past and Present of US Intelligence IP36020 20
The Politics and Paradoxes of International Organisations IQ36020 20
The Second World War in Europe IP36420 20
Total War, Total Peace IQ33420 20
Trade Wars and the Liberal Order IQ31620 20
UK Politics Today: A Union Under Strain? IQ33820 20
War Crimes IQ35720 20
Women and Global Development IP39620 20
Y Meddwl Cymreig Mewn Syniadaeth Ryngwladol GQ30920 20
'Arwyr': Dogfennu Gyrfaoedd yn y Diwydiannau Creadigol TC37020 20
Ffilm a Theatr Americanaidd TC39920 20
Prosiect Ymchwil Creadigol TC36140 40
Theatr a Ffilm Gyfoes: Cymru a'r Byd TC30620 20
Ymarfer Cynhyrchu 2: Cyfryngau TC31120 20
Ymarfer Cynhyrchu 2: Gorffen TC31220 20

Gyrfaoedd

Rhagolygon Gyrfaol

Mae graddedigion y adran wedi bod yn hynod lwyddiannus wrth ddilyn eu gyrfaoedd. Mae rhai graddedigion wedi dilyn gyrfa yn:

  • y Gwasanaeth Sifil (yn enwedig y Swyddfa Dramor, Y Weinyddiaeth Amddiffyn, a’r Adran Datblygu Rhyngwladol)
  • sefydliadau rhyngwladol (NATO, yr Undeb Ewropeaidd a’r Cenhedloedd Unedig)
  • mudiadau anllywodraethol (Amnest Rhyngwladol, Oxfam)
  • ymchwil wleidyddol, gyda chwmnïau preifat yn ogystal ag yn San Steffan, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd Ewrop
  • ymchwilio, golygu, rheoli llawr, trin camera, dylunio a chyfarwyddo ar gyfer cwmnïau ffilm a theledu
  • gweithio’n llawrydd ar draws y cyfryngau
  • sgriptio
  • gweinyddu’r celfyddydau.

Mae eraill yn dilyn gyrfa yn:

  • y lluoedd arfog
  • y cyfryngau (fel newyddiadurwyr neu gyflwynwyr radio neu deledu)
  • y gyfraith
  • y byd addysg
  • marchnata a chysylltiadau cyhoeddus
  • hysbysebu
  • trefnu a rhaglennu gwyliau.

Dewis poblogaidd arall yw aros mewn addysg uwch.

Sgiliau Trosglwyddadwy

Bydd astudio am radd mewn Gwleidyddiaeth yn eich arfogi ag amrywiaeth eang o sgiliau trosglwyddadwy sydd yn werthfawr iawn i gyflogwyr. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • ymchwilio a dadansoddi data
  • meddwl yn greadigol a datrys problemau’n effeithlon
  • gallu gweithio’n annibynnol
  • trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i gwrdd terfynau amser tynn
  • mynegi syniadau a chyfathrebu gwybodaeth yn glir a threfnus, ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • hunan-gymhelliant a hunan-ddibyniaeth
  • gwaith tîm - gallu trafod cysyniadau mewn grwpiau, gan drafod amrywiol syniadau a dod i gytundeb
  • sgiliau technoleg gwybodaeth
  • gweithio’n effeithiol mewn grŵp - datblygu, ymarfer a chynhyrchu deunydd cyfryngol a digwyddiadau byw ar y cyd ag eraill
  • defnyddio sgiliau creadigol, dyfeisgar a datrys problemau mewn amryw o sefyllfaoedd
  • trefnu'ch amser a defnyddio'ch sgiliau’n effeithiol
  • gwrando ar gyngor beirniadol a’i ddefnyddio
  • defnyddio amryw o sgiliau ac adnoddau technoleg gwybodaeth
  • dangos mentergarwch wrth ddatblygu prosiectau diwylliannol.

Blwyddyn Mewn Gwaith

Mae’r Brifysgol yn rhedeg cynllun Blwyddyn mewn Gwaith, sy’n cynnig cyfle arbennig i fyfyriwyr israddedig gymryd blwyddyn allan rhwng ail a thrydedd flwyddyn y cwrs er mwyn gweithio i sefydliad yn y Derynas Unedig neu dramor. Mae’r cynllun yn rhoi profiad gwerthfawr a buddiol i fyfyrwyr, yn bersonol ac yn broffesiynol, a gall eich helpu i sefyll allan mewn marchnad waith gystadleuol iawn. Gall Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol gynnig cyngor i chi o ran ystyried eich dewisiadau a dod o hyd i leoliad gwaith addas.

GO Wales

Gweinyddir GO Wales gan Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol, sy’n gweithio gyda busnesau lleol er mwyn creu lleoliadau gwaith cyflogedig dros gyfnod o ychydig wythnosau ar gyfer myfyrwyr. Mae’n rhoi’r cyfle ichi ennill profiad gwaith gwerthfawr a fydd yn edrych yn dda ar eich CV ac yn eich gwneud yn fwy atyniadol i ddarpar gyflogwyr.

Dysgu ac Addysgu

Beth fyddwch chi’n ei ddysgu?

Bwriad modiwlau’r flwyddyn gyntaf yw rhoi sail eang o wybodaeth wrth i chi baratoi i astudio’n ddwysach yn yr ail a’r drydedd flwyddyn.

Dyma rai o'r pynciau y byddwch yn eu harchwilio yn y flwyddyn gyntaf:

  • Cyflwyniad i Wleidyddiaeth
  • Creu Ffilm
  • Cydweithio Ensemble
  • Gweithio yn y Diwydiannau Creadigol.

Byddwch hefyd yn dewis o blith nifer o fodiwlau eraill sy’n adlewyrchu amrywiaeth gronolegol a thematig cysylltiadau rhyngwladol, fel y gallwch ddewis y pynciau sydd o ddiddordeb penodol i chi.

Dyma rai o'r pynciau y byddwch yn eu hastudio yn yr ail a'r drydedd flwyddyn:

  • Damcaniaethau Gwleidyddiaeth
  • Dulliau Ymchwil
  • Traethawd Hir
  • Sgiliau Cynhyrchu Ffilmiau
  • Dogfen Creadigol
  • Genrau Teledu.

Byddwch hefyd yn dewis o blith rhestr o fodiwlau eraill, er enghraifft:

  • Capitalism and International Politics
  • European Security in the 21st Century
  • Global Inequality and World Politics
  • Pobl a Grym: Deall Gwleidyddiaeth Gymharol Heddiw
  • Nationalism in Theory and Practice
  • UK Politics Today: A Union Under Strain?
  • Gwragedd a Datblygiad Byd-eang
  • Climate Change Politics
  • Fear, Cooperation and Trust in World Politics
  • Ffilm a Chyfryngau Cymru
  • Sgiliau Sgriptio
  • Ffilmiau Hollywood
  • Sgriptio.

Sut byddwch chi'n cael eich dysgu?

  • Ar y cwrs hwn byddwch yn cael eich dysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau. Yn y darlithoedd cyflwynir pwnc a thrafodir materion allweddol, ac mewn seminarau byddwch yn ymuno â grŵp llai o fyfyrwyr er mwyn trafod yn fwy anffurfiol a dadansoddi pwnc mewn mwy o ddyfnder. Bydd seminarau felly yn ffordd wych i chi roi eich syniadau eich hun ar brawf a thrafod eich profiadau eich hun, yn ogystal â rhannu profiadau a syniadau eich cyd-fyfyrwyr. Mae rhai modiwlau yn Rhan Dau (yr ail a’r drydedd flwyddyn) yn defnyddio fformat seminarau’n unig, sydd fel rhagflas o astudiaethau Meistr, tra bod eraill yn defnyddio efelychiadau, chwarae rôl, a thechnegau diweddaraf e-ddysgu.
  • Nid yw addysg o’r safon uchaf yn dechrau a gorffen yn y ddarlithfa neu’r ystafell seminar, ac mae’r ddwy adran yn cynnig ystod eang o weithgareddau allgyrsiol sy’n datblygu sgiliau bywyd pwysig ac yn cynnig profiad gwaith perthnasol a sgiliau trosglwyddadwy eraill. Mae’r gweithgareddau hyn i gyd yn rhoi cyfle i ddarganfod diddordebau newydd, profi syniadau newydd, a datgelu doniau cudd. Mae’r cyfan yn rhan o daith sy’n eich paratoi ar gyfer heriau’r dyfodol.
  • Mae Gemau Argyfwng yn chwarae rhan bwysig iawn ym mywyd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, ac fe’u cynhelir ddwywaith y flwyddyn ar gyrsiau preswyl. Hon oedd yr Adran Brifysgol gyntaf yn y DU i gysylltu dysgu o fewn y dosbarth â chymhlethdodau gwleidyddiaeth ryngwladol go iawn. Dros y blynyddoedd diwethaf mae’r Gemau Argyfwng wedi canolbwyntio ar yr argyfyngau dyngarol yn y Congo a Darfur, profion niwclear yng Ngogledd Korea, Saudi Arabia a gwleidyddiaeth y Dwyrain Canol, proses heddwch Gogledd Iwerddon, a’r rhyfel rhwng Rwsia a Georgia. Yn ystod y gemau argyfwng, mae ein myfyrwyr yn dysgu llawer am gymhlethdodau gwleidyddiaeth ryngwladol, pethau na ellir eu dysgu mewn darlithoedd a seminarau, yn enwedig y cyfyngiadau a wynebir gan arweinyddion gwleidyddol mewn argyfyngau. I lawer o’n myfyrwyr, y Gemau Argyfwng yw pinacl y cwrs.
  • Ar ochr y Cyfryngau, bydd digon o gyfleoedd ichi ddod yn rhan o berfformiadau a phrosiectau, ac mae ein Canolfan y Celfyddydau, sydd ar y campws, yn adnodd wych.
  • Asesir y rhan fwyaf o fodiwlau drwy gyfuniad o arholiadau a thraethodau, ond defnyddir prosiectau, cyflwyniadau ac adolygiadau llyfr i asesu myfyrwyr o bryd i’w gilydd.

Eich Tiwtor Personol

Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi am y cwrs gradd cyfan, a bydd y tiwtor yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed rheiny’n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso ichi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os oes angen cymorth arnoch.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|